Theresa May (Llun o'i chyfrif Twitter)
Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson wedi rhybuddio y gallai Prif Weinidog Prydain, Theresa May a’r Ceidwadwyr sicrhau mwyafrif sylweddol yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Gallai hi ennill “mwyafrif yn arddull Margaret Thatcher”, meddai Tom Watson, gan olygu y byddai hi’n arwain “heb fawr o atebolrwydd”.

Cyfaddefodd fod gan y Blaid Lafur “fynydd i’w ddringo” er mwyn cipio grym, ond mae’n mynnu bod maniffesto’r blaid, a gafodd ei ryddhau i’r wasg yn gynnar ddydd Mercher, yn cynnwys syniadau “cyffrous eithriadol”.

Dywedodd wrth bapur newydd y Guardian: “Os ydyn ni’n cyrraedd 8 Mehefin a’i bod hi ar y blaen yn y polau fel yr oedd hi ar ddechrau’r etholiad, bydd hi’n ennill mwyafrif yn arddull Margaret Thatcher.

“Byddai’n anodd iawn iddyn nhw gael eu dwyn i gyfrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Mae’n golygu na fydd y gwiriadau a chydbwysedd democrataidd yn digwydd… mae’r holl bethau hynny’n mynd allan drwy’r ffenest.

“Fe gewch chi lywodraethiant gan Theresa May heb fawr o atebolrwydd a dw i ddim yn meddwl bod unrhyw un eisiau hynny.”

Yn etholiadau 1983 a 1987, enillodd y Ceidwadwyr fwyafrif helaeth o 144 a 100.

Jeremy Corbyn

Ond mae Theresa May yn mynnu nad yw Jeremy Corbyn yn ddigon cryf i arwain Llywodraeth Prydain.

Cyhuddodd hi arweinydd y Blaid Lafur o fod eisiau dychwelyd i’r 1970au.

Adeg galw’r etholiad brys, roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 17.