Gavin Patterson (Llun: BT)
Ni fydd prif weithredwr cwmni cyfathrebu BT, Gavin Patterson, yn cael ei fonws blynyddol eleni, yn dilyn sgandal o fewn cangen y cwmni yn yr Eidal.

Dywedodd y cwmni y bydd yn derbyn cyflog o £1.3m am ei waith yn ystod 2016/17 – £5.3m yn llai na’r llynedd.

Mae elw BT wedi cael tolc o ganlyniad i’r sgandal, a ddaeth i’r amlwg ym mis Ionawr, ac a arweiniodd at ymadawiad pennaeth BT yn Ewrop, Corrado Sciolla.

Roedd y sgandal wedi arwain at “anghysondebau” yng nghyfrifon y cwmni.

Mae pwyllgor taliadau’r cwmni wedi penderfynu hefyd na ddylai’r pennaeth ariannol, Tony Chanmugam, sy’n gadael ei swydd, dderbyn bonws chwaith. Bydd ei dâl yn cwympo o £2.8m i £258,000.

Torri swyddi

Bydd y grŵp hefyd yn torri 4,000 o swyddi er mwyn ail-strwythuro ei uned Gwasanaethau Rhyngwladol.

Mae elw’r cwmni wedi cwympo 19% i £440m.