Y diweddar Aelod Seneddol Cyril Smith (Llun: PA)
Fydd yr ymchwiliad i mewn i honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn y diweddar wleidydd, Cyril Smith, ddim yn gorfod dod i gasgliadau penodol ynglyn ag achosion unigol.

Fe fydd yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol (yr IICSA) yn hytrach yn edrych ar sut y medrodd y cyn-Aelod Seneddol Rhyddfrydol “dargedu” bechgyn mewn sefydliadau yn Rochdale – er bod ei droseddu honedig yn hysbys.

Bu farw Cyril Smith yn 2010, ac mae’n cael ei amau o gam-drin plant yn rhywiol yn ysgolion Knowl View a Cambridge House yn Rochdale. Am ddegawdau, fe fu plant yn derbyn gofal yno dan adain Cyngor Bwrdeistref Rochdale.

Heddiw, fe ddywedodd y cyfreithiwr Brian Altman QC wrth rag-wrandawiad, mai ei waith ef fyddai edrych i mewn i’r modd yr ymatebodd yr awdurdodau i’r honiadau yn erbyn Cyril Smith, yn hytrach na honiadau penodol.