Mae Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno cais i’r llysoedd i gael peidio cyflwyno ei chynlluniau i fynd i’r afael â llygredd aer tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

Roedd gweinidogion adran DEFRA yn San Steffan wedi cael tan 4yp ddydd Llun, Ebrill 24, i gyflwyno mesurau drafft ar leihau lefelau nitrogen diocsid, wedi i farnwr orchymyn y llynedd fod ansawdd aer gwledydd Prydain ddim yn ddigon da.

Ond mae cais wedi dod heddiw gan DEFRA i ohirio cyflwyno’r drafft tan ar ôl Mehefin 8. Fe fyddai cyhoeddi cyn hynny,  meddai cynrychiolwyr y Llywodraeth, yn taflu “bom ddadleuol” i ganol ymgyrchoedd etholiad, lleol a chyffredinol.

Ac fe fyddai agor ymgynghoriad cyhoeddus ar fater mor ddadleuol, a gwledydd Prydain yng nghanol proses ddemocrataidd, yn “crisialu” y mater cyn bod cyfle i’w drafod yn iawn.

Yn ôl DEFRa, fe fyddai’r holl broses yn llyfnach ac yn fwy effeithlon, pe bai’n digwydd ar ôl yr etholiad cyffredinol.