Mae papur newydd The Sun wedi cyhoeddi ymddiheuriad i bêl-droediwr Everton a Lloegr, Ross Barkley, ar ôl iddo gael ei ddisgrifio fel gorila mewn colofn gan y cyn-olygydd Kelvin MacKenzie.
Ochr yn ochr â’r sylwadau sarhaus, roedd llun o lygaid gorila o dan lun o lygaid Ross Barkley, dyn yr oedd ei daid wedi ei eni yn Nigeria.
Dywed yr ymddiheuriad yn y papur heddiw:
“Pan gafodd ei gyhoeddi, nid oedd y papur yn gwybod am gefndir teuluol Ross Barkley, ac ni fwriadwyd unrhyw sarhad.
“Cyn gynted ag y tynnwyd ein sylw at ei gefndir, cafodd yr erthygl ei dileu ar-lein.
“Mae’n Sun wedi ymddiheuro am y tramgwydd a achoswyd gan y darn, a hoffem gymryd y cyfle hwn i ymddiheuro’n bersonol i Ross Barkley.”
Gwahardd
Roedd Kelvin MacKenzie wedi ysgrifennu’r golofn yn rhifyn 14 Ebrill o’r papur ar ôl i Ross Barkley gael ei ddyrnu mewn bar yn Lerpwl y penwythnos cynt.
Roedd wedi ysgrifennu:
“Efallai’n annheg, dw i bob amser wedi barnu Ross Barkley fel un o’n pêl-droedwyr mwyaf twp.
“Dw i’n cael teimlad tebyg wrth weld gorila mewn sŵ. Mae’r corff yn rhyfeddol ond y llygaid sy’n dweud y stori.”
Cafodd y colofnydd ei atal o’i waith gan y papur newydd wedi hyn, ac mae newyddiadurwyr y Sun wedi cael eu gwahardd o Goodison Park, stadiwm a maes hyfforddi Everton.
Kelvin MacKenzie oedd golygydd y Sun pan gyhoeddodd y papur gelwyddau am gefnogwyr Lerpwl yn dilyn trychineb Hillsborough yn 1989.