Palas buckingham (Llun: David Iliff CC-BY-SA 3.0)
Mae dyn wedi cael ei garcharu am chwe mis am dyfu canabis mewn plasty ger Palas Buckingham.

Fe wnaeth Jetmir Myrtaj, 29, bledio’n euog i gynhyrchu’r cyffur Dosbarth B mewn cyfeiriad yng Ngerddi Grosvenor, Belgravia, ar 1 Chwefror eleni.

Mae’r tŷ llai na 50 o fedrau o’r waliau sy’n amgylchynu gerddi cartref y Frenhines yn Llundain.

Drwy gysylltiad fideo yn Llys y Goron Southwark, fe siaradodd Jetmir Myrtaj drwy gyfieithydd Albaniaidd.

Cafodd ddedfryd o chwe mis yn y carchar a rhybudd gan y barnwr y gallai wynebu gael ei halltudio o’r wlad.

Cafodd ddau ddyn arall – Edriol Shyti a Hajri Cjapi – eu dedfrydu am chwe mis am yr un drosedd. Mae’r ddau hefyd yn wynebu cael eu hel yn ôl i Albania.