Llun: PA
Mae ffigwr blaenllaw o fewn y Blaid Lafur wedi galw ar y Prif Weinidog i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael y fargen orau yn hytrach na chytundeb brys wrth drafod Brexit.
Dywedodd Syr Keir Starmer mai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb fyddai’r “sefyllfa waethaf posib” a bod “y fargen orau yn well na bargen gyflym.”
Dywedodd Keir Starmer bod yn rhaid i Theresa May wrthwynebu galwadau rhai o fewn ei phlaid i ymbellhau oddi wrth Ewrop a fyddai’n arwain at ddyfodol “trychinebus.”
Mae hefyd yn rhagweld y bydd rhwyg o fewn y blaid Geidwadol yn amlygu dros y ddwy flynedd nesaf, wrth i’r trafodaethau Brexit barhau.
Erthygl 50
Daw rhybudd llefarydd Brexit yr wrthblaid ddeuddydd yn unig cyn tanio Erthygl 50 – sef y broses ffurfiol o adael Ewrop.
Mae Syr Keir Starmer wedi pwysleisio y bydd chwe phrawf gan y Blaid Lafur cyn iddyn nhw gefnogi unrhyw gytundeb gan gynnwys sicrhau cydweithio agos yn y berthynas gyda’r UE yn y dyfodol a sicrhau rheolaeth deg o fewnfudo “er budd yr economi a chymunedau.”