Llun: PA
Mae BT wedi cael dirwy o £42 miliwn gan reoleiddiwr y diwydiant Ofcom am dorri amodau ei gytundeb gyda chwmnïau telegyfathrebu eraill.

Dyma’r ddirwy fwyaf i gael ei rhoi i gwmni telegyfathrebu gan Ofcom.

Mae BT hefyd wynebu talu iawndal i’w gystadleuwyr o £300 miliwn.

Roedd Ofcom wedi cynnal ymchwiliad i Openreach, adran o BT sy’n datblygu a chynnal a chadw’r rhwydwaith ffonau yn y DU, ac sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr ffonau a band eang eraill.

Daeth i’r casgliad bod BT wedi torri amodau ei gytundeb i dalu iawndal oherwydd yr oedi cyn gosod ceblau busnes cyflym iawn i ddarparwyr telegyfathrebu eraill mewn da bryd.

Mae BT wedi ymddiheuro.