Cyd-sylfaenydd Comic Relief, Syr Lenny Henry (Llun: PA)
Daeth cadarnhad bod dros £73 miliwn wedi cael ei godi ar gyfer Comic Relief eleni.

Cafodd y ffigwr o £73,026, 234 ei gyhoeddi ddeuddydd ar ôl y digwyddiad elusennol blynyddol, ac mae’r cyfanswm yn parhau i godi. Bydd y cyfanswm terfynol yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.

Ond trafferthion sain a rhegi cyn 9 o’r gloch sydd wedi bod yn cael y sylw mwyaf ar wefannau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf.

6.2 miliwn o bobol oedd wedi gwylio’r darllediad byw, ac mae cyd-sylfaenydd Comic Relief, Syr Lenny Henry wedi diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth.

Ond roedd llu o negeseuon ar wefan gymdeithasol Twitter yn dilyn trafferthion sain ac eitem oedd yn dangos pidyn ffug cyn 9 o’r gloch.