(Llun: PA)
Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos bod y gefnogaeth i Alban annibynnol yn fwy nag erioed o’r blaen, ond mae’n rhybuddio y gallai sicrhau annibyniaeth fod yn fwy cymhleth o ganlyniad i Brexit.

Roedd 46% o Albanwyr o blaid annibyniaeth yn 2016, meddai’r adroddiad, o’i gymharu â 39% yn 2015 a 23% yn 2012.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod Albanwyr yn fwy sinigaidd am yr Undeb Ewropeaidd nawr nag yr oedden nhw cyn y refferendwm Ewropeaidd y llynedd.

Daw’r adroddiad ar ôl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon gyhoeddi y bydd hi’n ymgyrchu tros ail refferendwm annibyniaeth yn dilyn canlyniad siomedig yn 2014.

Mae hi wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain, Theresa May o anwybyddu’r Alban yn y penderfyniadau ynghylch yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i 62% o Albanwyr bleidleisio i aros.

Mae llywodraeth yr Alban yn awyddus i aros yn y farchnad sengl a sicrhau rhagor o bwerau iddyn nhw eu hunain.

Adroddiad

Yn ôl adroddiad ScotCen, mae mater yr Undeb Ewropeaidd yn un all “hollti” cenedlaetholwyr, ac mae’n dweud nad yw Albanwyr yn gryf o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar y cyfan.

Dywed yr adroddiad fod Albanwyr yn “fwy sinigaidd” am yr Undeb Ewropeaidd nag yr oedd cyn y refferendwm.

Dywed yr adroddiad nad yw mater Ewrop yn sail ar gyfer lansio ymgyrch o’r newydd i sicrhau annibyniaeth i’r Alban.

Dywedodd yr Athro John Curtice o ScotCen: “Dydi’r mudiad cenedlaetholgar yn yr Alban erioed wedi bod mor gryf yn etholiadol.

“Yn y cyfamser…. Roedd canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn ymddangos yn enghraifft berffaith o’u dadl fod yr Alban mewn perygl o weld ei hewylys ddemocrataidd yn cael ei gwyrdroi gan Loegr cyhyd ag y mae’n aros yn y Deyrnas Unedig.”

Ymateb

Yn ôl Ysgrifennydd Materion Allanol yr Alban, Fiona Hyslop, “annibyniaeth yw’r opsiwn cyfansoddiadol mwyaf poblogaidd ohonyn nhw i gyd”.

“Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ddwbwl yr hyn yr oedd yn 2012, gydag 8% yn unig nad ydyn nhw’n dymuno unrhyw fath o Senedd Albanaidd o gwbwl.”

Yn ôl llefarydd cyfansoddiad y Ceidwadwyr, Adam Tomkins, mae “rhaniadau sylweddol” ym marn Albanwyr ar nifer o faterion.

“Bydd tanio refferendwm arall ond yn gwneud hyn yn waeth,” meddai.

Dywedodd llefarydd San Steffan Llafur yr Alban, Ian Murray fod gan yr SNP “obsesiwn am ail refferendwm annibyniaeth”.

“Does gan Nicola Sturgeon ddim atebion am Ewrop ac maer adroddiad hwn yn egluro bod agweddau’r Alban tuag at hyn lawer mwy cymhleth nag y byddai’r SNP yn barod i gyfaddef.”