Barry Bennell Llun: Wikipedia
Mae’r cyn hyfforddwr pêl-droed, Barry Bennell, wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Ynadon wedi’i gyhuddo o 12 cyhuddiad newydd o gam-drin plant yn yr 1980au.

Mae’n debyg fod un o’r achosion honedig wedi digwydd ym Mhwllheli, gyda’r 11 arall yn Swydd Derby.

Mae’r cyhuddiadau’n ymestyn rhwng 1980 a 1987 yn erbyn tri pherson gwahanol rhwng 8 ac 14 oed.

20 cyhuddiad

Erbyn hyn mae Barry Bennell, 63 oed, cyn-hyfforddwr Crewe Alexandra yn wynebu cyfanswm o 20 cyhuddiad hanesyddol o gam-drin rhywiol ar blant.

Mae eisoes wedi gwadu saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen ac un achos o geisio bwbechni.

Fe ymddangosodd heddiw o’r carchar drwy gyswllt-fideo yn Llys yr Ynadon De Swydd Gaer yn Crewe wedi’i gyhuddo a saith cyhuddiad arall o ymosodiad anweddus a phum achos o fwbechni.

Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caer ar Fawrth 22.