Theresa May (o'i gwefan)
Mae Theresa May wedi cael ei chyhuddo o ilidio ychydig tros benderfyniad y Gyllideb i gynyddu Yswiriant Cenedlaethol pobol hunangyflogedig.
Mae’r Prif Weinidog wedi amddiffyn y newid “teg” ond fe addawodd wrando ar bryderon gan Aelodau Seneddol Ceidwadol ac fe ddywedodd na fyddai pleidlais ar y mater tan yr hydref.
Yn ôl y canghellor cysgodol, John McDonnell, mae hyn yn gyfystyr â gwneud “tro pedol rhannol” gan ddangos bod Llywodraeth San Steffan mewn “anhrefn.”
Ceisio blocio’r cynnydd
Mae’r Blaid Lafur yn ceisio gorfodi tro pedol ar y polisi, gan ddwyn perswâd ar rai o’r Torïaid i bleidleisio yn ei erbyn yn Nhŷ’r Cyffredin, lle mae gan y Llywodraeth fwyafrif o 17 o seddi.
Dywedodd Is-ysgrifennydd Cymru, Guto Bebb, wrth BBC Radio Cymru y dylai ei blaid “ymddiheuro” am fynd yn ôl ar ei haddewid, er bod gweinidogion eraill yn gwadu gwneud hynny.
Fe wnaeth Theresa May gydnabod bod y Gyllideb yn golygu gwneud “penderfyniadau anodd” ond mynnodd bod angen cau’r bwlch rhwng trethi pobol hunangyflogedig a rhai mewn gwaith cyflog.