Mae ymchwiliad ar y gweill i bosteri hiliol a gafodd eu harddangos mewn canolfan gymunedol ym Manceinion.
Cafodd y posteri eu rhoi trwy ddrysau nifer o gartrefi, llyfrgell ac ysgol yn yr ardal hefyd, meddai’r heddlu.
Mae lle i gredu bod y deunydd wedi cael ei ledaenu brynhawn dydd Iau, ac mae’r heddlu’n trin yr achos fel un o gasineb.
Ond dydyn nhw ddim wedi datgelu union gynnwys y posteri.
Maen nhw wedi cyhoeddi lluniau camerâu cylch cyfyng o ddyn maen nhw’n awyddus i siarad â fe mewn perthynas â’r digwyddiadau.