Trais yn y cartref (Llun: PA)
Fe fydd deddf trais yn y cartref newydd yn cael ei datblygu er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn ei alw’n sefyllfa “annerbyniol”.

Theresa May hithau fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r Ddeddf Trais yn y Cartref a Chamdrin.

Mae pryderon ar hyn o bryd fod y gyfraith fel ag y mae hi’n aneglur, a bod diffyg ymwybyddiaeth o raddau’r broblem.

Dioddefwyr

Dywedodd Theresa May fod trais yn y cartref yn “dinistrio bywydau”, ac mae hi’n mynnu y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cyflwyno system lle bydd mwy o bobol yn cael eu canfod yn euog.

Mae pryderon ymhlith Llywodraeth Prydain fod y system bresennol yn siomi dioddefwyr oherwydd diffyg cysondeb “annerbyniol” wrth erlyn troseddwyr ac wrth ymchwilio i droseddau.

Ond mae Theresa May wedi dweud bod “pwysigrwydd personol” i’r ddeddfwriaeth newydd, sy’n adeiladu ar y gwaith wnaeth hi pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cartref.

Fe allai gymryd hyd at 18 mis i ddatblygu’r ddeddfwriaeth newydd, gan y bydd yn tynnu ar brofiadau dioddefwyr, elusennau ac arbenigwyr yn y gyfraith.

‘Trawsnewid’

Dywedodd Theresa May y gallai’r ddeddfwriaeth newydd “drawsnewid y ffordd ry’n ni’n meddwl am drais yn y cartref ac yn mynd i’r afael â fe”.

“Mae miloedd o bobol sy’n dioddef dan law camdrinwyr – yn aml ar eu pennau eu hunain a heb fod yn ymwybodol o’r dewisiadau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw i ddod â’r cyfan i ben.”

Cafodd mwy na 100,000 o bobol eu herlyn am drais yn y cartref yn 2015-16, a mwy na 75,000 wedi’u canfod yn euog.

Ond mae pryderon o hyd nad yw dioddefwyr yn rhoi gwybod am bob trosedd.

Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Alison Saunders, ynghyd â nifer o elusennau, wedi croesawu’r ddeddfwriaeth.