Llys y Goron Leeds (Llun Llywodraeth Prydain)
Mae merch yn ei harddegau wedi gwadu llofruddio’r ferch fach saith oed, Katie Rough.

Cafwyd hyd i’r ferch ifanc ag anafiadau difrifol i’w gwddf a’i brest ar gae chwarae yn ninas Caerefrog – York – ym mis Ionawr a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Fe gafodd merch 15 oed ei harestio a’i chyhuddo o lofruddio ac o fod â chyllell yn ei meddiant.

Cyswllt fideo

Dyw enw’r ferch ddim wedi’I gyhoeddi ac fe ymddangosodd am yr ail dro yn Llys y Goron Leeds drwy gyswllt fideo, yn eistedd wrth ymyl ei chyfreithiwr.

Siaradodd y ferch ddim yn ystod y gwrandawiad a barodd 20 munud ond fe nodiodd ei phen pan ofynnodd y Barnwr, Peter Collier, a oedd yn deall y trefniadau ac fe gadarnhaodd y cyfreithiwr bod y ferch wedi ysgrifennu “dieuog” ar y gyhuddeb o’i blaen.

Roedd dwsin o aelodau teulu Katie Rough yn y llys.

Achos nesa’

Mae disgwyl i’r achos ddechrau ar 3 Gorffennaf, gyda dau wrandawiad arall cyn hynny. Bydd yn parhau mewn “llety awdurdod lleol” tan hynny.

Ddydd Llun, roedd tua 400 o bobol yn angladd Katie Rough yn gwisgo pethau amryliw i ddathlu ei bywyd.