Llun: PA
Mae cwmni peiriannau Rolls-Royce wedi cyhoeddi colledion o £4.64 biliwn – y colledion mwyaf yn ei hanes.

Dywed y cwmni bod gostyngiad yng ngwerth y bunt a sgandal llygredd i gyfrif am y gostyngiad.

Fe gyhoeddodd y cwmni’r colledion cyn-treth ar gyfer 2016 ar ôl i werth y bunt ostwng yn sgil y bleidlais Brexit, yn ogystal â dirwy o £671 miliwn yn sgil honiadau o lwgrwobrwyo.

Fe gyhoeddodd elw cyn treth o £813 miliwn – bron i hanner yr £1.4 biliwn a gyhoeddwyd yn 2015.

Dywed  Rolls-Royce eu bod yn gwneud ymdrechion i dorri costau a’u bod yn disgwyl perfformiad ychydig gwell yn 2017.