David Jones AS, y Gweinidog Brexit Llun: Parliament TV
Mae Gweinidogion yn San Steffan wedi ceisio cynnig consesiwn fyddai’n caniatáu i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gytundeb Brexit cyn iddo gael ei selio gan y Senedd Ewropeaidd.

Daw hyn wedi i rai Aelodau Seneddol Ceidwadol fygwth pleidleisio yn erbyn y Mesur Hysbysiad Gadael yr Undeb Ewropeaidd am eu bod yn poeni am adael yr undeb heb gytundeb, ac effaith hynny ar yr economi.

Dywedodd y Gweinidog Brexit, David Jones, “gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno symudiad ar y cytundeb terfynol wedi’i gymeradwyo gan ddau dŷ’r Senedd cyn iddo gael ei gwblhau ac rydym yn disgwyl ac yn anelu at hyn i ddigwydd cyn trafodaethau’r Senedd Ewropeaidd a phleidleisiau ar y cytundeb terfynol.”

Rhybuddiodd y Prif Weinidog Theresa May ddydd Llun y byddai’r Aelodau Seneddol Ceidwadol fyddai’n gwrthwynebu’r mesur yn mynd yn erbyn democratiaeth pobol gwledydd Prydain.

Dyma ail ddiwrnod y Mesur yn ei gyfnod pwyllgor, ac mae disgwyl trafodaethau pellach yfory cyn y bydd pleidlais yn cael ei gynnal o ran ei gyflwyno i’r cyfnod adolygu.