Brenhines Elizabeth II (Llun: PA)
Bydd Brenhines Elizabeth II yn creu hanes ddydd Llun wrth iddi ddathlu 65 mlynedd ar yr orsedd.

Hi yw’r teyrn cyntaf yn hanes Prydain i gyraedd y garreg filltir.

Ond does dim dathliadau wedi cael eu trefnu ar gyfer yr achlysur, a does dim disgwyl iddi ymgymryd ag ymweliadau swyddogol ar y diwrnod ychwaith.

Yn hytrach, bydd hi’n treulio’r diwrnod yn Sandringham yn ôl traddodiad Diwrnod yr Esgyniad.

Mae’r diwrnod hefyd yn nodi dyddiad marw ei thad, Siôr VI.

Er gwaetha’r diffyg rhwysg y tro hwn, mae disgwyl dathliad swyddogol pan fydd hi’n dathlu 70 mlynedd wrth y llyw yn 2022.