Wrth i Albanwyr ddathlu Noson Burns ar Ionawr 25, mae ymchwil newydd yn dangos bod wisgi’n werth £5 biliwn i economi gwledydd Prydain.

Cymdeithas Wisgi’r Alban sydd wedi comisiynu’r ymchwil, sydd yn dangos bod y diwydiant wisgi’n cynnal dros 40,000 o swyddi yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys 7,000 o swyddi yng nghefn gwlad, a 10,500 o swyddi yn yr Alban.

Wisgi hefyd oedd y prif gyfrannwr net at fasnachu nwyddau gwledydd Prydain yn 2015, yn ôl yr ymchwil, sydd wedi’i gyhoeddi ar ffurf adroddiad The Economic Impact of Scotch Whisky Production in the UK.

Yn ôl yr ymchwil, mae’r sector wisgi’n cyfrannu £3.2 biliwn yn uniongyrchol at economi’r Alban.

Mae allforio wisgi’n cynhyrchu £3.9 biliwn y flwyddyn.

Brexit

Ond mae pryderon y gallai’r diwydiant gael ei effeithio gan benderfyniad gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny’n groes i ddymuniad mwyafrif o Albanwyr.

Yn ôl Cymdeithas Wisgi’r Alban, mae angen mwy o sicrwydd ar y diwydiant y bydd yn cael ei drin yn deg gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r gymdeithas yn galw am doriad o 2% yn y dreth ar wisgi yn y Gyllideb nesa’.

Meddai prif weithredwr dros dro’r gymdeithas, Julie Hesketh-Laird: “Mae wisgi’r Alban yn o ddiwydiannau strategol bwysicaf y Deyrnas Unedig. Heb allforion gwerthfawr wisgi’r Alban o oddeutu £4 biliwn y flwyddyn, byddai diffyg masnach y Deyrnas Unedig mewn nwyddau’n 3% yn uwch.”

Codi gwydryn

Noson Burns, meddai Julie Hesketh-Laird, yw’r achlysur perffaith i “godi gwydryn” i lwyddiant wisgi’r Alban.

“Ond rydym yn galw ar y Llywodraeth i ‘sefyll i fyny dros Scotch’ drwy fynd i’r afael â’r lefel uchel ac annheg o drethi y mae distyllwyr yn eu hwynebu yn eu marchnad cartref.

“Mae’r dreth bresennol o 77% ar botel pris cymhedrol o Scotch yn fwrn ar gwsmeriaid a’r diwydiant.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys fod wisgi’r Alban yn “stori lwyddiant”.