Rolf Harris (Llun: PA)
Mae Llys y Goron Southwark wedi clywed bod Rolf Harris wedi cyffwrdd ym mron merch ifanc wrth iddi wylio rhaglen deledu’n cael ei ffilmio yn stiwdios y BBC yn 1983.

Clywodd y llys fod y diddanwr 86 oed wedi gofyn i’r ferch, “Wyt ti fel arfer yn cael dy folestu ar fore Sadwrn?” cyn rhoi ei law o dan ei bron.

Mae lle i gredu bod y drosedd honedig wedi cael ei chyflawni yn ystod ffilmio ‘Saturday Superstore’ yn stiwdios y Gorfforaeth yn White City yng ngorllewin Llundain.

Wrth roi tystiolaeth i’r llys, dywedodd y ddynes ei bod hi wedi mynd i gael diod mewn ystafell.

Dywedodd fod Rolf Harris wedi sefyll yn ei hymyl cyn cyffwrdd ynddi.

“Ro’n i mewn sioc. Dyna’r peth diwethaf ro’n i wedi disgwyl y byddai’n digwydd a do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud.

“Ro’n i mewn rhywfaint o sioc ac yn methu symud, ac fe adawodd e’n gyflym wedi hynny.”

Mae Rolf Harris yn gwadu saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Mae’n ymddangos gerbron y llys trwy gyswllt fideo o’r carchar yn Stafford, lle mae’n treulio cyfnod dan glo am gyfres o droseddau yn erbyn sawl dynes.

Mae’r achos yn parhau.