Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi bod yr adain o’r cwmni sy’n gwerthu dillad, wedi gweld twf am y tro cynta’ mewn dwy flynedd.

Roedd faint o ddiladd a gafodd eu gwerthu yn yr 13 wythnos yn arwain at Ragfyr 31, i fyny 2.3% o gymharu â’r un cyfnod yn 2015.

“Mae gwerthiant wedi codi oherwydd ganddon ni gasgliad gwell o ddillad, mwy o eitemau ar gael, a gwell prisiau,” meddai prif weithredwr M&S, Steve Rowe.

“Ond fe ddaeth y cynnydd hefyd ar ôl perfformiad gwael iawn ddechrau’r llynedd.”