Fe fu farw myfyriwr o Loegr ar ôl cwympo oddi ar do adeilad yn Tokyo ar nos Calan.

Roedd Justin Browning, oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Durham, yn treulio blwyddyn dramor yn astudio ym mhrifysgol Waseda ym mhrifddinas Siapan.

Cafodd gyrrwr tacsi hyd i’w gorff, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu ei fod e wedi dringo’r adeilad i wylio dathliadau’r flwyddyn newydd.