Next Llun: Paul Faith/PA Wire
Mae cwmni Next wedi cyhoeddi bod ei werthiant dros y Nadolig wedi bod yn waeth na’r disgwyl.

Cyhoeddodd y cwmni, sy’n gwerthu dillad a nwyddau i’r cartref, ei fod yn disgwyl “cyfnod heriol” yn 2017.

Roedd gwerthiant wedi gostwng 0.4% yn y 54 diwrnod hyd at 24 Rhagfyr, tra bod gostyngiad o 7% wedi bod yn ystod ei sêl ar ddiwedd y tymor.

Cyhoeddodd Next bod disgwyl i’w elw am y flwyddyn hyd at fis Ionawr 2017 ostwng tua 3.6% i £792 miliwn.

Fe rybuddiodd y cwmni ei fod yn disgwyl i’w werthiant fod dan ragor o bwysau yn 2017 oherwydd gostyngiad yng ngwerth y bunt yn sgil Brexit.

Roedd cyfrannau Next wedi gostwng 14% yn dilyn y cyhoeddiad.