Fe fu ond y dim i Margaret Thatcher gael ei dirwyo am fethu â chofrestru i dalu ei threth ddadleuol ei hun yn 10 Stryd Downing.

Dyna y mae dogfennau cyfrinachol yn ei ddangos. Mae’r ffeil, sydd bellach i’w gweld yn yr Archif Genedlaethol yn Kew, Llundain, yn cynnwys llythyrau rhwng Swyddfa’r Cabinet a Chyngor Dinas Westminster.

Fe gafodd cyn-Brif Weinidog Prydain ei rhybuddio y byddai’n cael ei chosbi oni byddai hi’n cwblhau ei ffurflen gofrestru mewn pryd… ac fe esgorodd hynny ar ffrae.

Er i’r broblem gael ei datrys, roedd yn ddechrau gwael i’r polisi a fyddai, yn y pen draw, yn achosi iddi golli ei swydd.

Yn 1989, fe anfonodd Cyngor Dinas Westminster lythyrau allan i bob un o breswylwyr Stryd Downing – yn cynnwys Rhif 10, lle’r oedd Margaret Thatcher yn byw. Roedd y llythyr yn gofyn i bawb gofrestru’n unigol ar gyfer y dreth, a fyddai’n cael ei chyflwyno yng Nghymru a Lloegr yn 1990. 

Fe gwynodd Swyddfa’r Cabinet am hyn, gan ddweud ei bod yn “hynod o amhriodol” i’r cyngor anfon allan yn gofyn “nifer o gwestiynau personol” am bob un o drigolion y stryd. Yna, fe dderbyniodd Margaret Thatcher ffurflen unigol i’w chwblhau ac, wedi iddi fethu ag ymateb, fe gafodd ei rhybuddio gan y swyddog cofrestru, David J Hopkins.

Fe ysgrifennodd lythyr ati, dyddiedig Mai 22, 1989, yn dweud: “Mae fy nghofnodion i’n dangos nad ydi preswylydd ‘Rooms First Floor, 10 Downing Street, London W1 9MN’ wedi llenwi ei ffurflen dreth gymunedol.”