Yn dilyn blwyddyn dymhestlog mae pobol gwledydd Prydain yn ansicr ynglŷn â 2017, meddai canlyniadau arolwg.

Yn ôl y pôl gan Ipsos Mori, mae 45% o bobol y Deyrnas Unedig yn credu y bydd y flwyddyn nesa’n un dda; a 43% yn credu y bydd hi’n flwyddyn wael.

Roedd y bobol gymrodd ran yn yr arolwg y llawer llai ffyddiog am America ac Ewrop – gyda 59% yn disgwyl blwyddyn wael i’r Unol Daleithiau, a 69% yn credu byddai pethau yn wael i’r Undeb Ewropeaidd.

O ran gwleidyddion Prydeinig roedd 51% yn rhagweld y byddai Theresa May yn cael amser da; tra bod 66% yn disgwyl y byddai pethau’n wael i Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur.

Roedd pobol yn llawer mwy optimistaidd ynglŷn â’u hunain wrth ateb y polau gyda 72% yn credu y byddai’r flwyddyn yn hwylus iddyn nhw a’u teuluoedd.