Lidl (Llun: PA)
Mae cemegyn teneuo paent wedi cael ei ddarganfod mewn cynnyrch grefi yn archfarchnad Lidl.

Maen nhw wedi galw’r cynnyrch Kania yn ôl ar ôl darganfod olion xylene, sydd fel arfer yn cael ei ddarganfod mewn petrol ac olew crai.

Gall dod i gyswllt â’r cemegyn achosi problemau’r geg, y gwddf, y trwyn a’r ysgyfaint, yn ogystal ag achosi afiechyd y galon, yr afu a’r arennau, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Fe fydd yr archfarchnad yn gosod arwyddion yn gofyn i gwsmeriaid ddychwelyd y cynnyrch er mwyn cael eu harian yn ôl.