Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i drydariad bygythiol am yr Aelod Seneddol Torïaidd Anna Soubry.

Gan gyfeirio at yr Aelod Seneddol Llafur Jo Cox a gafodd ei llofruddio ym mis Mehefin, roedd y neges ar wefan Trydar yn darllen: “someone jo cox Anna sourby please.”

Roedd Anna Soubry, sy’n gwrthwynebu Brexit, wedi ateb y trydarwr gan ei alw’n “sad cowardly troll”, ac yn ddiweddarach diolchodd i bobl am ei chefnogi.

Cadarnhaodd Heddlu Llundain fod dyn 25 oed wedi cael ei arestio yn ei gartref yn Bethnal Green “ar amheuaeth o anfon gohebiaeth faleisus”.