Mae elusen wedi rhybuddio na ddylid prynu cŵn bocser ar fympwy y Nadolig hwn ar ôl i nifer y cŵn sy’n cael eu gwerthu gynyddu yn dilyn hysbyseb John Lewis.

Yn yr hysbyseb, mae Buster y ci bocser yn neidio ar drampolîn yn yr ardd ar Fore Nadolig ac fe gynyddodd y chwilio am gŵn bocser ar wefan Find A Puppy y Kennel Club 160% y diwrnod ar ôl i’r hysbyseb gael ei ddarlledu am y tro cyntaf.

Mae’r elusen, ynghyd â gwasanaeth sy’n achub cŵn, yn rhybuddio darpar berchnogion y dylid meddwl yn ofalus cyn prynu ci.

Mae gan gŵn bocser enw drwg am wneud llanast a difrod, ac mae’r elusen yn rhybuddio bod angen gweithio’n galed i ofalu amdanyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Kennel Club: “Tra bod hysbyseb John Lewis yn creu darlun perffaith o natur chwareus a chariad ci bocser, ni all unrhyw hysbyseb roi darlun cyflawn o unrhyw frîd, felly mae’n hanfodol fod pobol yn gwneud ymchwil os ydyn nhw’n chwilio am gi.”

Roedd 1,511 o chwiliadau am gi bocser ar 13 Tachwedd, y nifer fwyaf yn y cyfnod ers i’r hysbyseb gael ei ddarlledu am y tro cyntaf.

Serch hynny, cynnydd o 4% a gafwyd mewn chwiliadau am fridiau eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth achub cŵn bocser: “Mae bocsers yn gymeriadau hyfryd ond rydym yn gofidio y byddwn ni dan y don y flwyddyn nesaf ar ôl i hysbyseb John Lewis ennyn diddordeb yn y brîd.

“Fe welson ni lawer o focsers o’r enw George yn dod aton ni ar ôl darlledu hysbyseb Colman’s Mustard oedd yn cynnwys ci bocser, felly rydyn ni’n gwybod ei fod yn digwydd.”