Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dechrau ymchwiliad i faterion ariannol Ukip yn sgil honiadau fod y blaid wedi camwario arian yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Swyddfa’r Senedd Ewropeaidd eisoes wedi dyfarnu y bydd yn rhaid i’r grŵp mae Ukip yn perthyn iddo, Alliance for Direct Democracy in Europe (ADDE), yn gorfod ad-dalu 172,655 ewro (£146,696) ac na fydd bellach yn derbyn grant o 248,345 euro (£211,000) ar ôl darganfod eu bod wedi camddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Comisiwn Etholiadol bellach wedi dechrau ymchwiliad ei hun i ddarganfod a oedd Ukip wedi derbyn rhoddion gan ADDE a’r sefydliad sy’n gysylltiedig, Initiative for Direct Democracy in Europe (IDDE).