Y cyn-Ganghellor, Ed Balls
Mae cyn-Ganghellor y Trysorlys wedi galw am ffrwyno annibyniaeth Banc Lloegr.

Wrth ysgrifennu mewn papur academaidd yn Ysgol Kennedy Harvard, mae Ed Balls yn dweud bod angen i fanciau canolog “aberthu’u hannibyniaeth wleidyddol” er mwyn gwarchod eu henw da a’u pwrpas.

“Mae annibyniaeth lawn i fanciau canolog yn gallu tanseilio eu gwaith a gwanhau’r gefnogaeth iddyn nhw,” meddai Ed Balls.

“Mae hefyd yn gwanhau’r gefnogaeth i ymreolaeth y banc canolog wrth iddyn nhw weithredu polisi ariannol.”

Mae Ed Balls yn dweud bod “pwer enfawr” wedi’i ganoli yn y banciau, ac mae’n galw am “sefydlu corff sy’n goruchwilio’r sustem i gyd, wedi gadeirio gan y Canghellor i bennu mandad i Fanc Lloegr”.