Mae rhai eisoes yn trafod y gallai’r Frenhines Elizabeth II wahodd Donald Trump i Balas Buckingham neu Gastell Windsor, oddi ar iddo gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Ers iddi ddod yn Frenhines yn 1953, mae hi wedi cyfarfod â phob un  arlywyddion America, ac eithrio Lyndon B Johnson.

Ond dim ond dau – Barack Obama a George W Bush – sydd wedi bod ar ymweliad gwladol â gwledydd Prydain, ac fe gafodd Ronald Reagan ginio mawreddog yng Nghastell Windsor.

Fe fyddai’n rhaid i Lywodraeth Prydain estyn y gwahoddiad i Donald Trump. Dyw’r Frenhines ddim eto wedi llongyfarch yr Arlywydd newydd, ac mae disgwyl i amseriad y neges gael ei drafod â’r Swyddfa Dramor.