Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae Theresa May wedi cynnig dod i gytundeb gydag India fyddai’n golygu y gallai pobl o’r wlad honno gael mwy o fisas i ddod i astudio neu weithio yn y Deyrnas Unedig.

Ond mae hynny ar yr amod fod India’n barod i dderbyn mudwyr, sydd wedi aros yn hwy na’r disgwyl ym Mhrydain, yn ôl i’w gwlad.

Daw hyn yn dilyn trafodaethau rhwng Theresa May â Phrif Weinidog India, Narendra Modi, wrth iddi ymweld â’r wlad mewn gobaith i drafod cytundeb fasnach newydd.

‘Dim llacio mesurau cymhwyso’

Mae Narendra Modi wedi bod yn pwyso ar y Deyrnas Unedig i agor ei drysau i fwy o fyfyrwyr a gweithwyr o India.

Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Prydain na fyddai’r cynnig hwn yn llacio dim ar fesurau cymhwysedd am fisas, ac nad oes cadarnhad eto faint yn fwy o fisas fydd ar gael.

Yn lle, mae’r Deyrnas Unedig yn barod i ystyried newidiadau fel torri costau fisas a chyflymu’r broses ymgeisio.

Fe wnaeth y ddau Brif Weinidog hefyd gytuno i gydweithredu fframwaith ddiogelwch syber newydd ynghyd â mynd i’r afael â radicaleiddio dros y we.