Mae heddlu Thames Valley yn awyddus i ddod o hyd i'r dyn hwn... o Bort Talbot?
Mae gwerth £130,000 o offerynnau cerdd wedi’u dwyn o siop gerddoriaeth yn ne Lloegr.

Mae heddlu Thames Valley wedi rhyddhau lluniau cylch cyfyng o ddyn y maen nhw’n chwilio amdano mewn cysylltiad â’r lladrad o The Piano and Accordion Shop yn London Road, Sunningdale, rhwng 4yp ar Awst 7 eleni, a 9.40yb Awst 8.

“Rydyn ni’n credu y gallai’r dyn fod â chysylltiadau yn Port Talbot,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “felly rydyn ni’n gofyn i gymunedau de Cymru hefyd i rannu’r llun a’r apêl hon am wybodaeth.”