Dydi’r rhan fwya’ o gynghorau ledled gwledydd Prydain ddim yn gwneud digon i dalu am y costau cynyddol o ofalu am henoed yn eu cartrefi.

Dyna gasgliad adroddiad newydd gan Asiantaeth Gofal Cartref y Deyrnas Unedig sy’n rhybuddio bod “tanwario” yr awdurdodau lleol yn effeithio ar les pobol a’i bod yn “sefyllfa frys”.

Yn ôl yr asiantaeth, mae’r gost o ddarparu gofal yn y cartref i bob awdurdod tua £16.70 yr awr, a hynny er mwyn darparu gofalwyr, cynnal y costau o redeg y busnes ynghyd ag elw a gweddillion.

Ond mae’r adroddiad wedi dangos mai £14.58 yr awr oedd y gost amcangyfrif ar draws holl gynghorau’r Deyrnas Unedig, gyda chost amcangyfrif o £14.99 yng Nghymru.

‘Mynd i’r afael â’r tanwario’

Mae mwy na 873,500 o bobol 65 oed neu’n hŷn yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi drwy wasanaethau gofal yn y cartre’ gan yr awdurdodau lleol.

Ond, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai cynghorau lleol oedd â chostau mor isel nad oedden nhw’n llwyddo i gwrdd â’r costau o gyflogi gofalwyr, sydd ar gyfartaledd yn £11.94 yr awr.

Er hyn roedd Swydd Rydychen, Bath a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf ymysg y cynghorau oedd yn gwario fwya’, sef mwy na £19 yr awr.

Yn ôl yr adroddiad, mae galw cynyddol am wasanaeth gofal yn y cartrefi, ond mae angen mynd i’r afael â’r tanwario oherwydd “yn y pendraw, mae’r farchnad ofal yn mynd i fynd yn anghynaladwy yn economaidd, ac ni fydd hyn yn galluogi pobol hŷn ac anabl i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi.”