Ben Needham Llun: PA
Mae’r heddlu fu’n ymchwilio i ddiflaniad y bachgen bach o Sheffield aeth ar goll ar ynys Kos yng Ngwlad Groeg  yn 1991 wedi dweud fod lle i gredu iddo farw o ganlyniad i ddamwain.

Daw eu cyhoeddiad wedi iddyn nhw ddod â’r chwiliad o’r newydd, a barodd dair wythnos ar ynys Kos, i ben ddydd Sul.

Yn ystod y chwiliad, fe ddaethant o hyd i ddarn o eiddo Ben Needham y mae lle i gredu iddo fod yn ei feddiant pan aeth ar goll ar 24 Gorffennaf 1991 ag yntau’n 21 mis oed.

‘Damwain’

Roedd yr heddlu wedi bod yn gweithredu o’r newydd ar sail tystiolaeth gan yrrwr JCB ei fod e’n gweithio ar y safle ar y diwrnod yr aeth Ben ar goll.

Bu farw’r gyrrwr, Konstantinos Barkas, y llynedd o gancr ar y stumog.

Ond, yn ôl Prif Arolygydd Heddlu De Efrog Jon Cousins: “Fy nghred broffesiynol i yw bod Ben Needham wedi marw o ganlyniad i ddamwain ger y ffermdy yn Iraklis lle y gwelwyd ef ddiwethaf yn chwarae.”

Er bod y rhan hon o’r chwiliad bellach wedi dod i ben, dywedodd y byddant yn parhau i ymchwilio i’r achos os ddaw gwybodaeth newydd i law.

Ychwanegodd mam Ben Needham, Kerry Needham: “Mae’r heddlu wedi dweud ei bod yn bryd i ddod â’r chwiliad 25 mlynedd i ben. Maen nhw’n iawn, ond alla’ i ddim dweud hwyl fawr yn gwybod ei fod dal yno ar yr ynys yna’n rhywle. Dw i’n teimlo’n sâl.”