Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl ddigartref
Mae Theresa May wedi cyhoeddi pecyn gwerth £40 miliwn gyda’r bwriad o atal digartrefedd trwy ymyrryd i helpu unigolion a theuluoedd cyn iddyn nhw golli eu cartrefi.

Dywedodd y Prif Weinidog mai cam cyntaf y polisi fyddai symud y ffocws o ddelio â chanlyniadau digartrefedd er mwyn ceisio mynd at wraidd y mater.

Ychwanegodd bod atal digartrefedd “wrth galon” y Llywodraeth.

Manceinion, Newcastle a bwrdeistref Southwark yn Llundain fydd y cyntaf i fod yn rhan o’r cynllun mewn arbrawf gwerth £20 miliwn.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am arian o gronfa grant o £10 miliwn ar gyfer ymyrraeth gynnar i helpu rhai sy’n cysgu ar y stryd cyn i’w problemau waethygu. Bydd £10 miliwn pellach mewn cyllid yn darparu cymorth personol i ymdrin ag anghenion cymhleth sy’n datblygu ar ôl bod yn ddigartref yn y tymor hir.

‘Digartrefedd ar gynnydd’

Daw’r cyhoeddiad wrth i ffigurau swyddogol ddangos bod digartrefedd wedi codi i’w lefel uchaf ers bron i ddegawd gyda chyfanswm o 15,170 o aelwydydd yn cael eu hystyried yn ddigartref yn y tri mis hyd at fis Mehefin 2016 – cynnydd o 10% ar yr un cyfnod y llynedd.

Gwnaeth Theresa May ei chyhoeddiad mewn erthygl yng nghylchgrawn Big Issue sy’n cael ei werthu gan bobl ddigartref.

Dywedodd prif weithredwr elusen ddigartrefedd St Mungo, Howard Sinclair: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn ac addewid y Prif Weinidog am agwedd gydlynol tuag at sicrhau nad oes unrhyw un yn gorfod cysgu ar y stryd.

“Rydym yn gobeithio mai dyma’r cam cyntaf tuag at strategaeth a dull gweithredu i wneud yn siŵr nad oes neb yn cael eu gwrthod pan nad oes ganddynt le diogel i aros, ble bynnag y maent yn y wlad, ac y gall yr holl bobl sy’n cysgu ar y stryd gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.”