Philip Green (Llun: PA)
Fe allai Aelodau Seneddol bleidleisio i dynnu’r urdd marchog oddi ar Syr Philip Green pan fyddan nhw’n trafod cwymp busnes BHS yr wythnos nesa’.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn galw ar gyn-berchennog y cwmni i fynd i’r afael â’r diffyg ariannol sydd yng nghronfa bensiwn BHS fel rhan o gynnig sydd wedi ei gyflwyno gan cadeirydd y Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Frank Field ac Iain Wright, cadeirydd y Pwyllgor Dethol Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Ond mae aelodau’r Pwyllgor Busnes, Richard Fuller a Michelle Thomson, eisiau mynd yn bellach ac wedi cyflwyno gwelliant sy’n awgrymu bod gweithredoedd Syr Philip wedi “codi’r cwestiwn a ddylai gael yr hawl i barhau i fod yn ddeiliad yr anrhydedd” o fod yn Arglwydd.

Maen nhw hefyd yn galw ar y Pwyllgor Anrhydeddau i ganslo urdd marchog Syr Philip.

Aeth BHS i ddwylo’r gweinyddwyr yn fuan ar ôl cael eu gwerthu am £1 gan y cyn berchennog Syr Philip Green. Honnir bod diffyg o £600 miliwn yn y cynllun pensiwn.

Mae’r cyfarfod i drafod BHS wedi ei drefnu gan y pwyllgor busnes y meinciau cefn ac ni fydd y bleidlais yn un gorfodol.