Mae disgwyl i amgueddfa ieithoedd gyntaf gwledydd Prydain roi hwb i amlieithrwydd.

Fe fydd yr Amgueddfa Ieithoedd Genedlaethol gyntaf o’i math yn ymddangos ar rai o brif strydoedd gwledydd Prydain mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o fanteision gallu siarad nifer o ieithoedd.

Mae’r prosiect wedi’i drefnu gan uned MEITS (Amlieithrwydd – Grymuso Unigolion, Trawsnewid Cymdeithasau) Prifysgol Caergrawnt, ac mae’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y Deyrnas Unedig.

Bydd canolfannau rhanbarthol yn cael eu sefydlu yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Caergrawnt a Nottingham, ac mae disgwyl i ragor o ganolfannau agor yn y dyfodol.

Dywedodd Wendy Ayres-Bennett, Athro Ieitheg Ffrangeg a Ieithyddiaeth Prifysgol Caergrawnt ac arweinydd prosiect MEITS: “Pan ddechreuon ni, fe gawson ni syndod o’r mwya fod yna amgueddfa coleri cŵn a pheiriannau torri gwair, ond nad oedd Amgueddfa Ieithoedd Genedlaethol yn y Deyrnas Unedig, ac roedden ni’n credu fod yna fwlch go iawn.

“Roedden ni am gau’r bwlch hwnnw gydag amgueddfa symudol a rhoi’r cyfle i bobol feddwl am gwestiynau am amlieithrwydd, hunaniaeth ac amrywiaeth, ac am eu sgiliau ieithyddol eu hunain.”

Ddydd Llun, fe fydd dathliadau ar gyfer Diwrnod Ieithoedd ar draws Ewrop.

Un o brosiectau MEITS yw hybu’r Wyddeleg a diwylliant Gwyddelig i’r gymuned Brotestannaidd.

Ychwanegodd Wendy Ayres-Bennett: “Yn y Deyrnas Unedig, mae yna gam-argraff fod siarad Saesneg yn ddigon ac mai unieithrwydd yw’r norm.

“Mewn gwirionedd, mae dros hanner poblogaeth y byd yn siarad mwy nag un iaith yn ddyddiol, ac yn y Deyrnas Unedig, mae gan bron i un o bob pump o ddisgyblion ysgol gynradd iaith gyntaf ac eithrio Saesneg.

“Nod ein prosiect yw dangos gwerth ieithoedd i unigolion a’r gymdeithas, a phwysigrwydd siarad mwy nag un iaith, neu fod yn amlieithog.”