Mae gweinidogion San Steffan yn awyddus i ddyblu’r gosb am ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru, yn ôl adroddiadau.

Y gosb ar hyn o bryd yw tri phwynt ar y drwydded a dirwy o £100.

Mae gyrwyr newydd sy’n casglu chwe phwynt o fewn dwy flynedd ar ôl pasio’u prawf yn colli eu trwydded.

Ond byddai’r cynlluniau newydd yn golygu y byddai gyrwyr newydd yn colli eu trwydded y tro cyntaf iddyn nhw gael eu dal yn defnyddio ffôn symudol.

Mae’r cynlluniau wedi cael eu disgrifio fel rhai ‘radical’ gan yr AA.

Dywedodd llywydd y mudiad, Edmund King: “Mae hyn yn radical. Un neges destun ac rydych chi allan. Ond os ydyn ni am newid agweddau gyrwyr ifainc, efallai bod rhaid bod mor llym â hynny.”

Mae’n rhaid i yrwyr newydd sy’n colli eu trwydded dalu am drwydded newydd dros dro ac ail-sefyll profion theori ac ymarferol er mwyn cael yr hawl i gael trwydded o’r newydd.

Gall gyrwyr eraill golli eu trwydded drwy gasglu 12 o bwyntiau dros gyfnod o dair blynedd.

Ystadegau

Yn ôl Adran Drafnidiaeth San Steffan, roedd gyrwyr oedd yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru wedi cyfrannu at 492 o ddamweiniau yng ngwledydd Prydain yn 2014 – 21 ohonyn nhw’n angeuol ac 84 yn ddifrifol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling: “Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae ffonau symudol yn fwy cyffredin, ond rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd ac yn yr un modd ag y mae yfed a gyrru neu gyrru ar gyffuriau wedi dod yn gymdeithasol annerbyniol, felly hefyd y dylai defnyddio ffonau symudol wrth y llyw fod.”

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2015, yr awgrym oedd y dylid cyflwyno system o bedwar pwynt ar drwydded am ddefnyddio ffôn wrth yrru, a dirwy o £150.

Yn ôl yr RAC, roedd bron i draean o yrwyr wedi cyfaddef iddyn nhw ddefnyddio ffôn wrth y llyw y llynedd, o’i gymharu ag 8% yn 2014.

Roedd cynnydd o 12% hefyd yn nifer y gyrwyr a ddywedodd eu bod nhw wedi anfon neges neu ddefnyddio gwefan gymdeithasol wrth y llyw.

Roedd 14% hefyd wedi cyfaddef iddyn nhw dynnu llun neu fideo wrth y llyw.