Mae pedwerydd corff wedi cael ei ddarganfod ar safle gorsaf bŵer Didcot yn Swydd Rydychen.

Mae’n chwe mis bellach ers y trychineb, ac mae teulu John Shaw, 61, wedi cael gwybod.

Roedd cyrff Christopher Huxtable o Abertawe, Ken Chreswell o Rotherham a Michael Collings o Teesside eisoes wedi cael eu darganfod.