The Sun - un o'r papurau fydd yn cael eu holi
Fe fydd perchnogion a golygyddion papurau newydd yn cael eu dwyn gerbron Ysgrifennydd Diwylliant, llywodraeth Prydain, tros eu rôl nhw yn y cynnydd sydd wedi bod yn nifer y troseddau casineb.

Mae Karen Bradley, yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, wedi addo y bydd yn holi golygyddion am eu rhan nhw mewn creu cymdeithas gynhwysol.

Mae’r ystadegau diweddara’ sydd wedi’u cyhoeddi gan Gyngor Penaethiaid yr Heddlu yn dangos cynnydd o 49% yn y digwyddiadau sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu.

Yn ystod wythnos ola’ mis Gorffennaf eleni, fe gafodd 1,863 eu riportio. Yr wythnos ddilynol, roedd nifer yr achosion gafodd eu riportio wedi cynyddu 58% o’r flwyddyn flaenorol, i 1,787.