Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gorchymyn Iwerddon i hawlio ad-daliad treth o 13 biliwn ewro (£11.1 biliwn) gan gwmni Apple.

Fe wnaeth ymchwiliad tair blynedd y Comisiynydd Cystadleuaeth, Margrethe Vestager, ddod at y casgliad bod trefniadau treth ers dechrau’r 1990au rhwng llywodraeth y wlad a’r cwmni wedi bod yn anghyfreithlon dan reolau cymorth gwladol.

Yn ôl canfyddiadau’r Comisiynydd, roedd y trefniadau wedi galluogi Apple i dalu llawer llai o dreth na busnesau eraill – 1% ar ei elw yn Ewrop yn 2003 a 0.0005% yn 2014.

Fe fydd yn rhaid i arolygwyr treth y wlad gasglu’r biliynau o ewros o Apple ond mae disgwyl i’r llywodraeth a’r cwmni apelio yn erbyn y dyfarniad.

“Fe wnaeth ymchwiliad y Comisiwn ddod at y casgliad bod Iwerddon wedi rhoi manteision treth anghyfreithlon i Apple, a oedd yn galluogi iddo dalu llai llawer llai o dreth na busnesau eraill dros nifer o flynyddoedd,” meddai’r Comisiynydd.

Cyflogi 5,500 o bobol

Mae gan Apple safle yn Iwerddon ers 1980, ac mae’n cyflogi tua 5,500 o bobol yn y wlad – y nifer fwyaf yn ninas Cork.

Mae Apple wedi cyhuddo’r Comisiwn Ewropeaidd o fygwth buddsoddiad a chreu swyddi yn y dyfodol ar y cyfandir a dywed y cwmni ei fod yn hyderus y bydd yn gwyrdroi gorchymyn i ad-dalu’r dreth i Lywodraeth Iwerddon.