Mae dynes wedi diodde’ ymosodiad rhyw wrth iddi gerdded adre’ o wyl gerddorol V Festicval yn ne Lloegr.

Fe brofodd y ddynes, yn ei 20au, ei thargedu gan ddyn oedd yn gyrru car Mondeo lliw tyywll yn Chelmsford, Essex, rhwng 9.30yh a 0.30yh nos Sadwrn.

Fe dderbyniodd y ddynes gynnig am lifft gan y gwr, gan gredu mai tacsi oedd y car.

Gyrrodd y dyn am beth amser cyn ymosod ar y ddynes. Fe allodd hi fynd allan o’r car i chwilio am help.

Mae’r V Festival yn digwydd y penwythnos hwn yn Hylands Park, Chelmsford, ac yn Weston Park yn Swydd Stafford.