Mo Farah
Mae galwadau heddiw ar i enillydd dwbwl-dwbwl Gemau Olympaidd Rio, Mo Farah, i gael ei urddo’n farchog.

Fe ddaeth yr alwad gan neb llai nag Archesgob Caerefrog, John Sentamu, wrth alw ar ei ddilynwyr Twitter i gefnogi’r syniad. “Mo Farah, ti yw, yn syml iawn, yr athletwr gorau welodd Tim Prydain Fawr erioed,” meddai, cyn gofyn i’w ddilynwyr aildrydar y neges “nawr, SIR MO”.

Fe lwyddodd Mo Farah i ennill medalau aur yn rasys y 10,000m a’r 5,000m yn Rio de Janeiro eleni, gan adleisio’r un gamp a gyflawnodd yn Llundain yn 2012.

Fe ddaeth yr un math o neges gan y cyn bêl-droediwr, Gary Lineker, gan alw Mo Farah y rhedwr gorau erioed dros bellter; cyn i’r Cymro o gyflwynydd, Aled Jones, ddweud ei fod “mor falch o fod yn Brydeiniwr” wrth wylio Mo Farah ar y trac yn Rio.