Pauline Cafferkey (Llun: PA)
Mae nyrs sydd bellach wedi gwella o firws Ebola yn wynebu gwrandawiad disgyblu yn dilyn honiadau ei bod hi wedi celu gwybodaeth am ei chyflwr wrth ddychwelyd i Brydain o Sierra Leone.

Bydd Pauline Cafferkey yn mynd gerbron panel yng Nghaeredin fis nesaf, wedi’i chyhuddo o ddweud celwydd am ei thymheredd wrth gael ei sgrinio ym maes awyr Heathrow yn 2014.

Yn ôl y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, roedd hi wedi “caniatáu i dymheredd anghywir gael ei gofnodi” ar Ragfyr 29, 2014, gyda’r “bwriad o gelu” y ffaith fod ei thymheredd dros 38 gradd selsiws.

Ar ôl gadael Sierra Leone, teithiodd Pauline Cafferkey i Lundain cyn mynd i’r Alban a chael gwybod fod Ebola arni.

Treuliodd hi bron i fis yn yr ysbyty ar ôl dychwelyd i Llundain.

Dychwelodd hi i’r ysbyty ddwywaith yn y misoedd a ddilynodd, ac roedd hi’n ddifrifol wael ar un adeg.

Yn ôl y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, wnaeth hi ddim rhoi gwybod i staff oedd yn cofnodi ei manylion yn Heathrow ei bod hi wedi cymryd paracetamol, a gadawodd hi heb wneud cofnod o’i thymheredd.

Pe bai hi’n cael ei chanfod yn euog, gallai hi golli ei hawl i nyrsio.