Mae cwmni archfarchnad Asda yn wynebu cyfnod anodd wedi i’r archfarchnad cyhoeddi ei berfformiad chwarterol gwaethaf erioed.

Mae’r archfarchnad – sy’n eiddo i Walmart – wedi gweld 7.5% o ostyngiad mewn gwerthiant yn yr ail chwarter y flwyddyn.

Dyma’r wythfed chwarter yn olynol iddyn nhw weld gostyngiad mewn gwerthiant.

Mae pennaeth newydd y siop Sean Clarke, a gymerodd yr awenau ar 11 Gorffennaf, yn ceisio adfer y cwmni trwy fuddsoddi £1.5 biliwn.

Mae ei gynllun hefyd yn cynnwys torri prisiau, torri swyddi a darparu gwell dewis.

Ym mis Ionawr, dywedodd Asda byddai’n cael gwared a channoedd o swyddi yn y DU gyda’r rhan fwyaf yn effeithio ei brif swyddfa Leeds sy’n cyflogi 3,000 o bobl.