Mae swyddi miloedd o weithwyr BHS wedi cael eu hachub dros dro ar ôl iddi ddod i’r amlwg y bydd 57 o’r siopau sy’n weddill yn cael eu cadw ar agor yn hirach na’r disgwyl.

Roedd gweinyddwyr wedi rhoi terfyn amser o 20 Awst i gau pob siop ond mae hyn wedi cael ei estyn dros dro hyd at 28 Awst, er ei bod yn bosibl y gallai’r dyddiad hwn hefyd gael ei ymestyn.

Bydd y siopau nawr ar agor tan i’r stoc redeg allan er mwyn ceisio gwneud yr elw mwyaf posibl. Bydd gweithwyr yn parhau i gael eu talu hyd nes y bydd siopau’n cau ac wedi hynny byddant yn cael eu diswyddo.

Mae’r gweinyddwyr eisoes wedi cau dros 106 o siopau dros yr wythnosau diwethaf gyda’r prif siop ar Oxford Street yn Llundain yn cau ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae tranc y siop wedi golygu bod 11,000 yn colli eu swyddi, 22,000 yn colli pensiynau, ac mae ymchwiliad seneddol wedi codi’r posibilrwydd o ymchwiliad troseddol yn erbyn cyn berchnogion y busnes.

Y biliwnydd Syr Philip Green sydd wedi dwyn baich y bai yn gyhoeddus. Roedd o’n berchen ar BHS am 15 mlynedd cyn ei werthu i Dominic Chappell am £1 yn 2015.

Mae Philip Green wedi cael ei feirniadu am gymryd mwy na £400 miliwn o’r busnes mewn difidendau gan adael diffyg pensiwn o £571 miliwn a gwerthu’r busnes i ddyn heb unrhyw brofiad yn y maes.

Mae AS Llafur Frank Field wedi gofyn i’r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) lansio ymchwiliad ffurfiol i’r ddau i ganfod os oedd unrhyw gyfreithiau wedi eu torri yn ystod y gwerthiant.