Mae merch yn ei harddegau wedi’i chanfod yn farw yn ei phabell mewn gwyl gerddoriaeth yn ne Lloegr.

Er i barafeddygon wneud eu gorau i achub ei bywyd, bu farw’r ferch 18 oed o Swydd Buckingham ym maes pebyll gwyl BoomTown Fair yng Nghaerwynt, Hampshire.

Dyw’r farwolaeth ddim yn cael eu hystyried yn un amheus, ond mae ymchwiliad ar y gweill ar ran crwner yr ardal.