Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn wedi sicrhau cefnogaeth 285 o etholaethau lleol pleidiau Llafur (CLP) i’w enwebu fel arweinydd.

Mae hyn yn gyfanswm sylweddol o gymharu â’i gydymgeisydd, Owen Smith, sydd wedi sicrhau cefnogaeth 53 o’r CLP.

Mudiad o aelodau o’r Blaid Lafur sy’n byw mewn gwahanol etholaethau o’r Deyrnas Unedig ydy’r CLP, a datganiadau o gefnogaeth yn unig ydy’r rhain.

Er hyn, maent yn amlygu cynnydd sylweddol yng nghefnogaeth Jeremy Corbyn ers y llynedd pan dderbyniodd gefnogaeth 152 o’r CLP cyn cael ei ethol yn arweinydd y blaid.

Dywedodd llefarydd ei ran, “Jeremy Corbyn ydy’r unig ymgeisydd all gasglu cefnogaeth aelodaeth Llafur ar draws y wlad.”

Y bleidlais

Bydd y papurau pleidleisio i ethol arweinydd nesaf y Blaid Lafur yn cael eu hanfon at aelodau ddydd Llun nesaf a’u dychwelyd erbyn Medi 21.

Yna, mewn cynhadledd arbennig yn Lerpwl ar Fedi 24, bydd arweinydd nesaf y Blaid Lafur yn cael ei gyhoeddi.

Mae wedi dod i’r amlwg fod y cais i ganiatáu 130,000 o aelodau newydd Llafur i bleidleisio yn y bleidlais wedi’i wrthod, ac roedd lle i gredu y byddai llawer o’r rheiny wedi cefnogi Jeremy Corbyn.