A fydd Jeremy Corbyn yn gallu gwrthsefyll her i'w arweinyddiaeth gan Owen Smith?
Dydy Jeremy Corbyn ddim yn deall sefyllfa wleidyddol yr Alban, yn ôl unig aelod seneddol Albanaidd y blaid, Ian Murray.

Mae Corbyn wedi wfftio’r posibilrwydd o weld y blaid yn cynghreirio â’r SNP.

Yn ôl Ian Murray, a ymddiswyddodd o gabinet cysgodol y blaid ym mis Mehefin, byddai cynnig yr SNP i sicrhau rheolaeth lawn dros arian yr Alban yn creu twll o £7.6 biliwn yn economi’r wlad.

Ond yn ôl olynydd Murray, Dave Anderson, gallai cynghreirio â’r SNP fod yn bris gwerth ei dalu er mwyn atal y Ceidwadwyr rhag parhau mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ym mhapur newydd y Daily Record, dywedodd Ian Murray: “Does gan Jeremy Corbyn ddim diddordeb mewn bod yn Brif Weindiog. Mae Owen Smith, yr ymgeisydd arall, yn deall yr angen am Lywodraeth Lafur.

“Mae e’n gwybod, er mwyn helpu teuluoedd dosbarth gweithio i sicrhau tegwch, fod angen i ni apelio i gynifer o bobol â phosib.

“Mae’n ymddangos bod cefnogwyr Jeremy Corbyn yn gwneud y gwrthwyneb.”

Wrth gyfeirio at gynnig Dave Anderson, ychwanegodd Murray: “Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae fy olynydd fel Ysgrifennydd cysgodol yr Alban, Dave Anderson AS, wedi awgrymu y gall fod yna gytundeb rhwng Llafur a’r SNP i ffurfio llywodraeth y DU.

“Nid dyma’r tro cyntaf i Jeremy a’i gynghreiriaid ddangos diffyg dealltwriaeth o’r deinamig gwleidyddol yn yr Alban.”

Ychwanegodd mai “Owen Smith yn unig fydd yn adfer hygrededd” i Lafur.

Dywedodd Anderson ei bod yn “rhy gynnar” i ystyried cynghreirio â’r SNP, ond dywedodd nad oedd yn barod i wfftio’r posibilrwydd ar hyn o bryd.

“Os mai dyna’r pris sydd angen i ni ei dalu er mwyn atal llywodraeth Dorïaid rhonc arall… yna rhaid i ni feddwl am y peth o leiaf a’i drafod.”